Yn dilyn ein cynhadledd hynod lwyddiannus ar fabwysiadu yn 2023, mae’n bleser gennym lansio ein Darlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2024. Ein siaradwr gwadd fydd yr Athro Laura Machin o Brifysgol Lancaster, a fydd yn cyflwyno ei gwaith ar y prosiect Adopters Advocacy Project. COFRESTRWCH NAWR. Mae’r Athro Machin – a gafodd ei mabwysiadu yn blentyn… Read More
Digwyddiadau Sydd i Ddod
Dysgwch fwy am ein digwyddiadau a gweminarau sydd ar ddod, a sut y gallwch chi gofrestru, ar y dudalen hon. Am restr o ddigwyddiadau’r gorffennol, ewch i’n harchif.
Eiriolaeth Rhieni mewn Gwasanaethau Amddiffyn Plant yn Lloegr
Bydd y seminar hon yn cyflwyno canfyddiadau'r gwerthusiad realistig cyntaf ar raddfa fawr o eiriolaeth rhieni yn Lloegr. Cynhaliwyd yr ymchwil ar draws pedair ardal awdurdod lleol, sy’n amrywio yn ddaearyddol, o ran eu diwylliant sefydliadol a’u cynllun eiriolaeth.
Ar-lein, Teams
12:00
- 02/12/2026
Gweminar: Safbwyntiau proffesiynol ar ddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru
Mae Storfa Ddiogelu Cymru yn storfa ddigidol o adolygiadau diogelu o Gymru. Yn hanesyddol, roedd adolygiadau diogelu yng Nghymru yn dod o dan brosesau ar wahân yn dibynnu ar y math o ddioddefwr neu droseddwr, er enghraifft, Adolygiadau Ymarfer Plant, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Llofruddiaeth Domestig, ac Adolygiadau Llofruddiaeth Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, roedd yr adolygiadau hyn yn aml yn cynnwys themâu cyffredin ac weithiau cynhaliwyd sawl adolygiad ar gyfer un digwyddiad. Mewn ymateb i hyn, dechreuodd Llywodraeth Cymru’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), sy’n cwmpasu pob categori o adolygiad diogelu. Mae Canllawiau Statudol yr SUSR yn tynnu sylw at y ffaith y dylai gweithwyr proffesiynol gael mynediad at Storfa Ddiogelu Cymru i gael gwybodaeth berthnasol ym mhob cam o'r broses SUSR. Mae'r weminar hon yn rhoi cyfle i ddysgu sut mae'r system adolygu diogelu gymharol newydd hon yn gweithio'n ymarferol, gan dynnu ar fewnwelediadau proffesiynol gan Gadeirydd ac Adolygydd SUSR profiadol ac arweinydd academaidd Storfa Ddiogelu Cymru. Bydd enghreifftiau o SUSRau diweddar yn dangos sut mae Storfa Ddiogelu Cymru yn hwyluso adolygiadau o ansawdd uwch ac argymhellion mwy cadarn.
Ar-lein, Teams
13:00
- 08/12/2026
Deall Cymorth Cymdeithasol a Lles Meddyliol Plant a Phobl Ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru
Mae plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu risgiau mwy sylweddol o iechyd meddwl a lles gwael, ond eto i gyd mae modd i gydberthnasau cefnogol chwarae rhan amddiffynnol hollbwysig. Bydd y cyflwyniad hwn yn rhannu canfyddiadau sy’n deilio o dair elfen rhyng-gysylltiedig mewn cymrodoriaeth, gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n edrych ar gymorth cymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Ar-lein, Teams
12:00
- 12/01/2027
Cynadleddau Grŵp Teulu : Tystiolaeth Newydd
Mae Cynadleddau Grŵp Teulu (CGT) yn gyfarfodydd a arweinir gan deuluoedd, sy'n dod â rhwydweithiau teuluol ynghyd i wneud penderfyniadau ynglŷn â phlant sydd ag anghenion neu sydd mewn perygl. Mae Family VOICE yn werthusiad aml-gydran o Gynadleddau Grŵp Teulu (CGT) yn y DU.
Ar-lein, Teams
12:00
- 20/01/2027
Cefnogi Addysg Dysgwyr sydd â Phrofiad o fod mewn gofal: i ble y dylai Llywodraeth Cymru fynd nesaf?
Mae ymchwil rhyngwladol a chenedlaethol yn dangos yn gyson bod dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu rhwystrau parhaus i lwyddiant addysgol. Ledled y DU, mae strwythurau llywodraethu amrywiol ar waith i wella cynnydd addysgol a phrofiadau ysgol dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r Model Ysgol Rithwir yn ddyletswydd statudol yn Lloegr, lle mae gan bob awdurdod lleol swyddog uwch sy'n gyfrifol am waith aml-asiantaethol rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg. Yn yr Alban, mae rôl debyg yn bodoli ond nid yw'n un statudol – mae tua 70% o awdurdodau lleol yn cyflogi pennaeth ysgol rithwir. Yn 2020, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot gwerth £1.2 miliwn o'r Model Ysgol Rithwir yng Nghymru, gyda'r gwerthusiad, a ddisgwylir ddiwedd 2025, yn awgrymu canlyniadau cadarnhaol. Awgrymodd yr adroddiad gwerthuso, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, y dylid gweithredu'r dull hwn a gwneud swyddi uwch-swyddogion yn rhai statudol, yn debyg i'r 'ysgol rithwir'. Mae'r gweminar hwn yn dod ag ymarferwyr ac ymchwilwyr o Gymru a'r Alban ynghyd i ystyried tystiolaeth ddiweddar, ac i ddeall sut mae'r model wedi esblygu yn y DU a sut mae'n datblygu yng nghyd-destun Cymru. Bydd cydweithwyr yn dysgu sut mae Penaethiaid Ysgolion Rhithwir yn creu cysylltiadau rhwng addysg a gofal cymdeithasol, yn cynnig her adeiladol, ac yn eirioli dros blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ar lefelau unigol, lleol a chenedlaethol.
Ar-lein, Teams
12:00
- 27/01/2027
Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.
Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.
Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.
Gweminar: Hyrwyddo diwylliant ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Hyrwyddo diwylliant ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau cadarn heb ddefnyddio’r sylfaen ymchwil? Mae ymarfer a gyfoethogir gan ymchwil bob amser wedi bod yn safon aur ym maes gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae wedi bod yn her ers tro byd i wneud hynny yn rhan naturiol o’r ymarfer… Read More
Gweminar: Beth sy’n gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Gweminar: “Beth sy’n gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal: Tystiolaeth adolygu systematig” Dydd Mawrth, 15 Tachwedd, 16:00-17:00 GMT+1 Crynodeb Mae lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn parhau’n bryder mawr. Hyd yma, nid yw wedi bod… Read More
Gweminar: Ailddysgu ein Lles Meddyliol – a Ffyrdd o’i Gefnogi
Dyma’r weminar gyntaf yn ein cyfres o gynadleddau – Ar y Daith: Ymdrin ag Iechyd Meddwldfd Crynodeb: Gan elwa ar ei brofiad a phrofiad pobl eraill, nod Peter yn y cyflwyniad hwn, a fydd yn sail i’r drafodaeth ddilynol, yw ein helpu i ailystyried y ddwy ddealltwriaeth ynghlwm wrth les meddyliol a thrallod, a’r ffyrdd… Read More
Gweminar: Beth sy’n gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal: Tystiolaeth adolygu systematig
Dyma’r ail weminar yn ein cyfres o gynadleddau – Ar y Daith: Ymdrin ag Iechyd Meddwldfd Crynodeb Mae lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn bryder mawr o hyd. Hyd yma, nid yw wedi bod yn glir pa raglenni a allai fynd i’r afael â’r deilliannau hyn yn… Read More
Gweminar: Cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol a lleihau unigrwydd: gwersi ar gyfer ymarfer a gwaith ymchwil o dreialon ymyrraeth
Ein trydydd gweminar yn ein cyfres o gynadleddau – Ar y Daith: Navigating Mental Health “Cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol a lleihau unigrwydd: gwersi ar gyfer ymarfer ac ymchwil o dreialon ymyrraeth” Crynodeb Mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o fod â rhwydweithiau llai ac yn profi… Read More
Cinio Nadolig Caerdydd 2023
Y llynedd, bu grŵp o westywyr yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, rhai o CASCADE, yn cydweithio i ddarparu cinio Nadolig a dathliad i bobl â phrofiad o ofal. Roedd y tîm yn nerfus iawn cyn y diwrnod mawr, gydag atgyfeiriadau’n dal i gyrraedd hyd at yr wythnos cyn y Nadolig. Gwirfoddolodd cogydd am dridiau i sicrhau… Read More
Gweminar: Ffactorau risg rhieni a’r tebygolrwydd y bydd plant yn dod i ofal.
Mae nifer o broblemau rhieni eisoes wedi bod yn gysylltiedig â phlant sy’n dod i mewn i ofal. Mae’r rhain yn cynnwys problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac anableddau dysgu. Fodd bynnag, mae llawer o bethau am y berthynas rhwng y materion hyn mewn rhieni a mynediad plant i ofal nad ydynt yn hysbys. Er… Read More
Gweminar: Deall llwybrau gofal a sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer babanod yng Nghymru
Mae’r cyflwyniad hwn yn darparu tystiolaeth empirig newydd am lwybrau mynediad i ofal, llwybrau drwy ofal, a deilliannau lleoliadau ar gyfer y plant ieuengaf un yn y system ofal yng Nghymru. Drwy fynd i’r afael â chwestiynau am lwybrau gwirfoddol a gorfodol i ofal, mae’n uniongyrchol gysylltiedig â chwestiynau a godwyd yn adroddiad terfynol y… Read More

