Dirprwyo’n ddiofyn? Technoleg sy’n eiddo preifat yn y system cyfiawnder teuluol – cyfleoedd a heriau o ran mynediad at gyfiawnder
Archwilia’r adroddiad hwn gan Dr Natalie Byrom yn Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield y defnydd cynyddol o dechnolegau digidol ac artiffisial preifat yn y system cyfiawnder teuluol a’r risgiau posibl y mae hyn yn eu creu ar gyfer mynediad at gyfiawnder. Mae’n dadlau bod llysoedd a’r llywodraeth yn dibynnu fwyfwy ar ddarparwyr technoleg preifat yn ddiofyn, heb reoleiddio na goruchwylio, neu fesurau diogelu digonol. Tynna’r adroddiad sylw at bryderon am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer cyngor cyfreithiol a phrosesau’r llysoedd, yn enwedig mewn achosion teuluol sensitif, a gwna argymhellion i wella llywodraethu, tryloywder ac amddiffyniadau defnyddwyr.
