Bwriad y canllawiau arfaethedig yw rhoi eglurder i ymarferwyr ar yr hyn y dylai dysgwyr ei ddysgu a phryd. 

Rydym am glywed eich barn am y canlynol:

  • strwythur a chynnwys y canllawiau arfaethedig
  • eglurder a chydlyniant y cynnydd mewn mathemateg a rhifedd
  • a yw’r manylder a ddarperir yn briodol
  • sut y gallai’r canllawiau gefnogi cynllunio’r cwricwlwm, cynllunio cynnydd, dysgu ac addysgu, ac asesu, yn y ffordd orau
  • ystyriaethau gweithredu, gan gynnwys dysgu proffesiynol, adnoddau a gofynion o ran cymorth
  • effaith bosibl y cynigion

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio’r canllawiau terfynol ac yn cefnogi’r trefniadau gweithredu.

Ymgynghoriad yn cau: 22 Chwefror 2027