Digwyddiadau Teulu & Chymuned

Mae rhestrau digwyddiadau Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Hawliau Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

Mae’r cwrs hyfforddi hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda babanod a phlant ifanc o dan saith oed neu gyda’u teuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, gweithgareddau awyr agored a chelfyddydol. Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a dysgu sut mae’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc. 1 Rhagfyr

location-iconAr-lein

time-icon09:00 - 01/12/2026

Ymunwch â ni yn y digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn y gymuned a Chinio Nadolig yng Nghaerdydd

10-6 3 Rhagfyr 2026 Gwerthu cacennau 11-2 Cwrdd â'r gwirfoddolwyr Creu cardiau Nadolig Creu cardiau a negeseuon Nadoligaidd ar gyfer ein gwesteion yn y cinio Nadolig Rhagor o wybodaeth am ein pumed digwyddiad blynyddol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a fyddai fel arall yn treulio Dydd Nadolig ar eu pennau eu hunain SBARC| SPARK, Heol Maendy, Caerdydd Mae croeso i bawb!

location-iconSBARC

time-icon10:00 - 03/12/2026

Cefnogi Plant sydd a Phrofiad o Ofal

Cefnogi Plant sydd a Phrofiad o Ofal: O Ymrwymiad i Weithredu Mae’r sesiwn hyfforddi hon wedi’i chynllunio i helpu sefydliadau i gael dealltwriaeth glir ac ymarferol o beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu, yn enwedig mewn perthynas â’r egwyddorion a’r ymrwymiadau sydd wedi’u nodi yn Siarter Rhianta Corfforaethol Cymru.

location-iconAr-lein

time-icon09:30 - 09/12/2026

Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Phobl Ifanc 11-25 oed

Gan ddefnyddio gweithgareddau hwyliog ac atyniadol drwy gydol y dydd, bydd y cwrs Hawliau Plant a Chyfranogiad i Bobl Ifanc 11-25 oed yn nodi’r fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru, a bydd yn cynnwys technegau ac offer ymarferol y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol gyda pobl ifanc ar sail unigol a grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys ymestyn eu rhan mewn gwneud penderfyniadau sefydliadol. 10 Rhagfyr

location-iconAr-lein

time-icon09:30 - 10/12/2026

Diogelu Grŵp C

Diogelu Grŵp C ar gyfer yr arweinydd diogelu dynodedig ac uwch ymarferwyr Plant yng Nghymru-Mae gan yr Arweinydd Diogelu Dynodedig rôl hanfodol i sicrhau bod mesurau diogelu ar waith a bod camau gweithredu effeithiol yn cael eu cymryd pan fydd pryderon am blentyn yn codi. 1-2 Rhagfyr 2026

location-iconAr-lein

time-icon17:00 - 14/12/2026

Cefnogi Pobl i Bleidleisio

Cefnogi Pobl i Bleidleisio – Hyfforddiant Shelter Cymru 31 Mawrth 2026 – 31 Rhagfyr 2026 Ni ddylai mynediad at gyfranogiad democrataidd ddibynnu ar statws tai rhywun. Ond, mae pobl sy’n ddigartref neu sy’n byw mewn llety dros dro yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag cofrestru i bleidleisio. Mae’r cwrs ar-lein rhyngweithiol hwn yn grymuso staff tai a chymorth rheng flaen i chwarae rôl hyderus a gwybodus wrth gael gwared ar y rhwystrau hynny. Drwy gryfhau eich dealltwriaeth a’ch ymagwedd chi, byddwch yn helpu i sicrhau nad yw tenantiaid a phobl ddigartref yn cael eu heithrio rhag eu hawl i bleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru

location-iconAr-lein

time-icon00:00 - 31/12/2026

Sylfeini Rheoli Effeithiol

Ydych chi’n rheolwr newydd neu’n paratoi i gamu i’ch rôl arwain gyntaf? Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ar-lein ymarferol a diddorol wedi’i chynllunio i’ch helpu i lwyddo wrth drosglwyddo i reolaeth. 4-5 Chwefror

location-iconAr-lein

time-icon00:00 - 05/02/2027

Hawliau Plant a Chyfranogiad i Blant o Dan 11 oed

Gan ddefnyddio gweithgareddau hwyliog ac atyniadol drwy gydol y dydd, bydd y cwrs Hawliau Plant a Chyfranogiad i Blant dan 11 oed yn gosod allan y fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad plant yng Nghymru, a bydd yn cynnwys technegau ac offer ymarferol y gellir eu defnyddio yn uniongyrchol gyda phlant ar unigolyn a sail grŵp i'w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

location-iconAr-lein

time-icon09:30 - 16/02/2027

Children

Diogelu Grŵp C

Diogelu Grŵp C ar gyfer yr Arweinydd Diogelu Dynodedig ac Uwch Ymarferwyr Cwrs deuddydd Mae gan yr Arweinydd Diogelu Dynodedig rôl hanfodol i sicrhau bod mesurau diogelu ar waith a bod camau gweithredu effeithiol yn cael eu cymryd pan fydd pryderon am blentyn yn codi. Mae’n berthnasol i leoliadau amrywiol, h.y. ysgolion, gofal plant, gwasanaethau gwirfoddol a phreifat sy’n darparu gweithgareddau, dysgu a chymorth i blant a theuluoedd.

location-iconAr-lein

time-icon09:00 - 24/02/2027

Hawliau Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

Mae’r cwrs hyfforddi hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda babanod a phlant ifanc o dan saith oed neu gyda’u teuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, gweithgareddau awyr agored a chelfyddydol. Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a dysgu sut mae’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc.

location-iconAr-lein

time-icon09:30 - 02/03/2027

A group of teenagers

Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Phobl Ifanc 11-25 oed

Gan ddefnyddio gweithgareddau hwyliog ac atyniadol drwy gydol y dydd, bydd y cwrs Hawliau Plant a Chyfranogiad i Bobl Ifanc 11-25 oed yn nodi’r fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru, a bydd yn cynnwys technegau ac offer ymarferol y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol gyda pobl ifanc ar sail unigol a grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys ymestyn eu rhan mewn gwneud penderfyniadau sefydliadol.

location-iconAr-lein

time-icon09:30 - 05/03/2027

Cefnogi Pobl Ifanc

Mae Become yn cynnig nifer o gyrsiau i ofalwyr sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc trwy gyfnodau pontio. I gael rhagor o wybodaeth am bob cwrs, cliciwch ar y ddolen i’r cwrs unigol. Cefnogi Pobl Ifanc gyda Chyllidebu a Chyllid – Mae’r hyfforddiant hwn yn edrych ar y problemau mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac ymadawyr gofal yn eu hwynebu ynghylch cyllidebu a chyllid. Cefnogi Pobl Ifanc trwy Gyfnodau Pontio – Lluniwyd y digwyddiad hwn ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan edrych ar y cyfnodau pontio amrywiol ym maes gofal a sut mae eu rheoli yn effeithiol. Cefnogi Lles Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal – Mae’r cwrs hwn yn cydnabod yr effaith bosibl ar les emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Cefnogi Pobl Ifanc wrth iddyn nhw bontio i Addysg Uwch – Mae’r digwyddiad hyfforddi byr hwn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y broses o wneud cais am le mewn prifysgol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a sut i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth wrth iddyn nhw bontio i fyd addysg uwch ac yn ystod eu hamser yno.

location-iconAr-lein

time-icon00:00 - 31/03/2027

Hyfforddiant sy’n seiliedig ar hawliau

Mae Become yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar hawliau i ofalwyr. I gael rhagor o wybodaeth am bob cwrs, cliciwch ar y ddolen i’r cwrs unigol. Cyflwyniad i Hawliau a Hawlogaethau – Mae’r cwrs hwn yn edrych ar ddeddfwriaeth a’r fframwaith cyfreithiol sy’n ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Deall y Broses Gadael Gofal – Mae’r sesiwn hyfforddi hon yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall profiadau pobl ifanc a sut mae’r broses o adael gofal yn gweithio. Cynllunio Llwybrau a Rôl Gofalwyr Maeth – Mae’r hyfforddiant hwn yn edrych ar broses cynllunio llwybrau a’r meysydd sydd fel arfer dan sylw yn y Cynllun Llwybrau. Sicrhau Hawliau a Hawlogaethau Pobl Ifanc – Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu gofalwyr i ddeall y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â hawlogaethau i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

location-iconAr-lein

time-icon00:00 - 31/03/2027

Sioe Addysg Genedlaethol- Llandudno 2027

Bydd y Sioe Addysg Genedlaethol 2027 yn cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno, ar ddydd Gwener 11 Mehefin. Bydd y diwrnod yn cynnig cyfleoedd i ddarganfod ffyrdd newydd o godi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.

location-iconVenue Cymru, Llandudno

time-icon09:00 - 11/06/2027

Defnyddio Minecraft fel Offeryn Therapiwtig – Lefel 2

Mae’r hyfforddiant hwn i ymarferwyr sydd wedi cwblhau (neu sy’n agos at gwblhau) y cwrs Lefel 1 ar eu cyflymder eu hunain ac sydd eisiau dyfnhau eu hymarfer, meithrin hyder, a chysylltu ag eraill gan ddefnyddio Minecraft yn therapiwtig. Mae’r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno’n fyw i grwpiau bach o 6–8 o ymarferwyr ac mae’n cynnwys myfyrio moesegol a rhoi cynnig ar dechnegau uwch dan arweiniad. Dydd Mawrth 10 a dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026, 16:00–19:30 GMT (11:00–14:30 ET / 08:00–11:30 PT) – Ymrestrwch yma. Dydd Mawrth 12, Dydd Iau 14, Dydd Mawrth 26 a Dydd Iau 28 Ionawr 2027, 19: 00–20: 30 GMT (14:00–15:30 ET / 11:00–12:30 PT) – Ymrestrwch yma. Dydd Mawrth 9 a dydd Iau 11 Mawrth 2027, 14:00–17:30 GMT (09:00–12:30 ET / 06:00–09:30 PT) – Ymrestrwch yma. Dydd Sadwrn 15 a dydd Sadwrn 22 Mai 2027, 10:00–13:30 BST (19:00–22:30 AEST) – Ymrestrwch yma. Dydd Mawrth 13 a dydd Iau 15 Gorffennaf 2027, 14:00–17:30 BST (09:00–12:30 ET / 06:00–09:30 PT) – Ymrestrwch yma.

location-iconAr-lein

time-icon00:00 - 16/07/2027

Defnyddio Minecraft fel Offeryn Therapiwtig – Lefel 1

Mae Lefel 1 Defnyddio Minecraft fel Offeryn Therapiwtig yn gwrs ar-lein y cewch ei gwblhau ar eich cyflymder eich hun. Dyma gam cyntaf eich profiad o ddefnyddio Minecraft fel offeryn therapiwtig yn eich ymarfer.

location-iconAr-lein

time-icon00:00 - 01/09/2027

Defnyddio hambyrddau tywod digidol mewn therapi ar-lein ac wyneb yn wyneb

Mae’r cwrs hwn yn cynnig trosolwg o hambyrddau tywod digidol mewn therapi chwarae ac ymarfer therapiwtig arall: beth ydyn nhw, sut maen nhw’n gysylltiedig ag arferion byrddau tywod corfforol traddodiadol, a’r ystod o offer sydd ar gael ar hyn o bryd mewn fformatau 2D, 3D, realiti rhithwir, a gemau fideo blwch tywod. I gael rhagor o wybodaeth ac i ymrestru

location-iconAr-lein

time-icon00:00 - 01/10/2027

Sioe Addysg Genedlaethol- Caerdydd 2027

Bydd y Sioe Addysg Genedlaethol 2027 yn cael ei chynnal yn Arena Utilita, Caerdydd, ar ddydd Gwener 8 Hydref. Bydd y diwrnod yn cynnig cyfleoedd i ddarganfod ffyrdd newydd o godi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.

location-iconArena Utilita, Caerdydd

time-icon09:00 - 08/10/2027