Cinio Nadolig Caerdydd 2026: Gwneud Gwahaniaeth i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Am y bumed flwyddyn yn olynol, bydd Cinio Nadolig Caerdydd yn dod â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal o bob rhan o Dde Cymru ynghyd am ddiwrnod arbennig o gyfeillgarwch, hwyl a chymuned.
Wedi’i drefnu gan wirfoddolwyr o CASCADE, WISERD, Voices from Care Cymru, ac NYAS Cymru, mae’r digwyddiad yn cynnig cludiant, pryd o fwyd Nadolig, anrhegion a gweithgareddau i westeion, mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol. Mae gan lawer o wirfoddolwyr brofiad bywyd neu brofiad proffesiynol o faes gofal, ac mae nhw’n helpu i greu dathliad lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gysylltiedig.
Mae Cinio Nadolig Caerdydd wedi’i ysbrydoli gan fenter a gafodd ei ddechau gan y bardd Lemn Sissay (darllenwch fwy yma). Hyd yma Caerdydd yw’r unig ddigwyddiad Cinio Nadolig o’i fath yng Nghymru ac mae’n creu atgofion parhaol a chysylltiadau ystyrlon i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal bob Nadolig.
Roedd rhai o’r gwestai blaenorol wedi dychwelyd i fod yn wirfoddolwyr, ac yn awyddus i roi’n ôl i’w cymuned a bod yn rhan o rywbeth arbennig.
Sut y gallwch chi helpu
Mae’r digwyddiad yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan roddion!
Sut i gymryd rhan:
- Rhoi: Ewch i’n tudalen codi arian i gefnogi’r digwyddiad yn ariannol.
- Prynu anrheg: Prynwch rywbeth o’n rhestr o anrhegion.
- Rhoddi eitemau: Rydyn ni hefyd yn chwilio am anrhegion ac addurniadau o safon i wneud y diwrnod yn fwy arbennig.
- Argymell i rywun arall neu chi eich hun: Cewch ragor o fanylion yma
- Dewch i ymuno â ni yn ein digwyddiad codi arian! Dewch draw i SBARC|SPARK ar Heol Maendy ar 3 Rhagfyr i’n digwyddiad codi arian a chodi ymwybyddiaeth. Bydd gwerthiant cacennau rhwng 11 ac 1, yn ogystal â gweithgareddau creu cardiau a chrefftau Nadolig ar y diwrnod.
Bydd eich cefnogaeth yn helpu i sicrhau nad yw unrhyw berson ifanc yn Ne Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn treulio’r Nadolig ar eu pennau eu hunain.
Cysylltwch â ni: thecardiffchristmasdinner@gmail.com
Neu dilynwch ni am ddiweddariadau ac ysbryd yr ŵyl:
Instagram | Bluesky | LinkedIn
