
Gweminar:
Cefnogi Addysg Dysgwyr sydd â Phrofiad o fod mewn gofal: i ble y dylai Llywodraeth Cymru fynd nesaf?
Cyflwynwyr:
Michael Bettencourt (CELCIS, Prifysgol Strathclyde), Dr Emily Lowthian (Prifysgol Abertawe), Deborah Williams (Grŵp Llywio Cymru Dysgwyr)
Dyddiad: Dydd Mercher 27ain Ionawr 2027
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Crynodeb
Mae ymchwil rhyngwladol a chenedlaethol yn dangos yn gyson bod dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu rhwystrau parhaus i lwyddiant addysgol. Ledled y DU, mae strwythurau llywodraethu amrywiol ar waith i wella cynnydd addysgol a phrofiadau ysgol dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae’r Model Ysgol Rithwir yn ddyletswydd statudol yn Lloegr, lle mae gan bob awdurdod lleol swyddog uwch sy’n gyfrifol am waith aml-asiantaethol rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol ac addysg. Yn yr Alban, mae rôl debyg yn bodoli ond nid yw’n un statudol – mae tua 70% o awdurdodau lleol yn cyflogi pennaeth ysgol rithwir. Yn 2020, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot gwerth £1.2 miliwn o’r Model Ysgol Rithwir yng Nghymru, gyda’r gwerthusiad, a ddisgwylir ddiwedd 2025, yn awgrymu canlyniadau cadarnhaol. Awgrymodd yr adroddiad gwerthuso, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, y dylid gweithredu’r dull hwn a gwneud swyddi uwch-swyddogion yn rhai statudol, yn debyg i’r ‘ysgol rithwir’. Mae’r gweminar hwn yn dod ag ymarferwyr ac ymchwilwyr o Gymru a’r Alban ynghyd i ystyried tystiolaeth ddiweddar, ac i ddeall sut mae’r model wedi esblygu yn y DU a sut mae’n datblygu yng nghyd-destun Cymru. Bydd cydweithwyr yn dysgu sut mae Penaethiaid Ysgolion Rhithwir yn creu cysylltiadau rhwng addysg a gofal cymdeithasol, yn cynnig her adeiladol, ac yn eirioli dros blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ar lefelau unigol, lleol a chenedlaethol.
Bywgraffiadau
Michael Bettencourt (CELCIS, Prifysgol Strathclyde)
Mae Michael Bettencourt yn Ymgynghorydd Addysg yn CELCIS, Prifysgol Strathclyde, ac yn gyn-Bennaeth Ysgol Rithwir. Mae’n arwain Rhwydwaith Penaethiaid Ysgolion Rhithwir yr Alban, yn cefnogi awdurdodau lleol wrth weithredu’r dull, ac wedi cyhoeddi ymchwil ar blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’r model ysgol rithwir.
Dr Emily Lowthian (Prifysgol Abertawe)
Mae Dr Emily Lowthian yn Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, ym Mhrifysgol Abertawe ac yn aelod o Academi Ifanc y DU (UK Young Academy). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ganlyniadau addysgol ac anghydraddoldebau sy’n cael eu profi gan blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru, gan ddefnyddio data ar raddfa’r boblogaeth i lywio polisi ac arfer cenedlaethol.
Deborah Williams (Grŵp Llywio Cymru Dysgwyr)
Mae Deborah Williams yn gyd-gadeirydd Grŵp Llywio Cymru Dysgwyr sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal. Mae hi’n gyn-bennaeth ysgol ac, yn flaenorol, roedd yn Bennaeth Ysgol Rithwir yng Nghaerdydd. Mae hi’n chwarae rhan ganolog wrth hyrwyddo hawliau plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ac yn gweithio gydag ymarferwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisïau o bob rhan o’r DU i lunio dull Cymreig o weithredu’r model ysgol rithwir.
