Gweminar:
Deall Cymorth Cymdeithasol a Lles Meddyliol Plant a Phobl Ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru

Cyflwynydd: Dr Rebecca Anthony, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: Dydd Mawrth 12fed o Ionawr
Amser: 12:00 – 13:00

Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Mae plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn wynebu risgiau mwy sylweddol o iechyd meddwl a lles gwael, ond eto i gyd mae modd i gydberthnasau cefnogol chwarae rhan amddiffynnol hollbwysig. Bydd y cyflwyniad hwn yn rhannu canfyddiadau sy’n deilio o dair elfen rhyng-gysylltiedig mewn cymrodoriaeth, gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n edrych ar gymorth cymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Yn gyntaf, bydda i’n cyflwyno canfyddiadau adolygiad cwmpasu sy’n cynnwys 246 o astudiaethau rhyngwladol sy’n edrych ar y mathau, y ffynonellau a safon y cymorth cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Yn ail, bydda i’n cyflwyno canfyddiadau astudiaeth sy’n seiliedig ar boblogaeth o dros 2,600 o bobl ifanc mewn gofal yng Nghymru. Canfuwyd patrwm amlwg o gymorth canfyddedig gan y teulu, ffrindiau ac athrawon, gan ystyried eu cysylltiadau â deilliannau iechyd meddwl a lles. Yn olaf, bydda i’n rhannu gwybodaeth o astudiaeth ymchwil ansoddol gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru, a ddefnyddiodd dulliau creadigol, gan gynnwys eco-fapiau a thrafodaethau wedi’u hwyluso, er mwyn edrych ar sut maen nhw’n deall, yn profi ac yn gwerthfawrogi cymorth yn eu rhwydweithiau cymdeithasol.

Gyda’i gilydd, mae’r astudiaethau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau cymorth sefydlog, ymddiriedus ac aml-ffynhonnell, gan ddatgelu cryn amrywiaeth ym mhrofiadau pobl ifanc. Bydd y cyflwyniad yn trafod y goblygiadau ar gyfer polisïau ac ymarfer sydd â’r nod o gryfhau cymorth gan berthnasau i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Bywgraffiad

Mae Dr Rebecca Anthony yn Gymrawd Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd, lles a deilliannau bywyd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a sefyllfaoedd anodd eraill. Gan ddefnyddio ystod o ddulliau meintiol ac ansoddol, mae hi’n edrych ar faterion gan gynnwys cydberthnasau cymdeithasol, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac anghydraddoldeb, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn creu tystiolaeth a all fod yn sail ar gyfer polisïau ac arferion gofal cymdeithasol.