Bwriad y canllawiau arfaethedig yw rhoi eglurder i ymarferwyr ar yr hyn y dylai dysgwyr ei ddysgu a phryd.
Rydym am glywed eich barn am y canlynol:
- strwythur a chynnwys y canllawiau arfaethedig
- eglurder a chydlyniant y cynnydd mewn mathemateg a rhifedd
- a yw’r manylder a ddarperir yn briodol
- sut y gallai’r canllawiau gefnogi cynllunio’r cwricwlwm, cynllunio cynnydd, dysgu ac addysgu, ac asesu, yn y ffordd orau
- ystyriaethau gweithredu, gan gynnwys dysgu proffesiynol, adnoddau a gofynion o ran cymorth
- effaith bosibl y cynigion
Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio’r canllawiau terfynol ac yn cefnogi’r trefniadau gweithredu.
