
Gweminar:
Cynadleddau Grŵp Teulu : Tystiolaeth Newydd
Cyflwynwyr: Liz Schroeder, University of Oxford and Jonathan Scourfield, Cardiff University
Dyddiad: Dydd Mercher 20 Ionawr 2027
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Crynodeb
Mae Cynadleddau Grŵp Teulu (CGT) yn gyfarfodydd a arweinir gan deuluoedd, sy’n dod â rhwydweithiau teuluol ynghyd i wneud penderfyniadau ynglŷn â phlant sydd ag anghenion neu sydd mewn perygl. Mae Family VOICE yn werthusiad aml-gydran o Gynadleddau Grŵp Teulu (CGT) yn y DU.
Y rhan gyntaf oedd cyd-ddylunio’r ymchwil gydag ymarferwyr ac aelodau o deuluoedd sydd â phrofiad bywyd o Gynadleddau Grŵp Teulu (CGT). Yna bu dwy astudiaeth werthuso ar wahân.
Yr Astudiaeth o Gyd-destun a Safbwyntiau Teuluol oedd yr astudiaeth fwyaf yn y DU hyd yma, yn seiliedig ar brofiadau teuluoedd o Gynadleddau Grŵp Teulu (CGT). Atebodd aelodau teulu o bedair gwlad y DU holiaduron cyn, yn ystod ac ar ôl y CGT (155 o deuluoedd / 380 o aelodau o deuluoedd). Atebodd cydlynwyr y CGT yr holiaduron hefyd. Y prif ffocws oedd effaith yr amrywioldeb yn y ffordd y cynhelir y Cynadleddau Grŵp Teulu (CGT) – e.e. ansawdd cyfranogiad y teulu a chefnogaeth barhaus gan wasanaethau.
Yr Astudiaeth Defnydd o Wasanaethau oedd y gwaith dilynol hiraf o ganlyniadau CGT o unrhyw astudiaeth yn y DU hyd yma. Cymharodd blant mewn pum awdurdod lleol yn Lloegr a oedd wedi cael CGTau â phlant mewn amgylchiadau tebyg mewn wyth awdurdod lleol yn Lloegr nad oedd yn cynnig CGTau. Edrychodd ar yr hyn a ddigwyddodd ddwy flynedd yn ddiweddarach mewn system gofal cymdeithasol i blant, ac a oedd CGT wedi atal uwchgyfeirio. Ystyriodd hefyd arbedion cost posibl sy’n gysylltiedig â chael CGT.
Bywgraffiadau
Mae Liz Schroeder yn gweithio yn y grŵp Economeg Iechyd a Gwerthuso Polisi (HEPE) yn Adran Gofal Sylfaenol Nuffield, Prifysgol Rhydychen. Mae ei harbenigedd yn ymwneud â gwerthusiadau economaidd o ymyriadau iechyd y cyhoedd cymhleth, a hynny’n benodol ym meysydd arloesiadau iechyd digidol, iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i blant, ac iechyd plant. Mae Liz yn aelod o Bwyllgor Cynghori Technolegau Meddygol (MTAC) ar gyfer NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn y DU. Mae hi’n Athro Cyswllt Anrhydeddus ym MUCHE, Prifysgol Macquarie, Awstralia, a chyn hynny roedd ganddi’r un swydd yn Sydney, lle bu ar nifer o bwyllgorau allanol ymchwil a llywio, yn ogystal â phwyllgorau prifysgol. Hi oedd y Comisiynydd Economeg i’r Comisiwn Iechyd Meddwl Cenedlaethol rhwng 2019 a 202.
Mae Jonathan Scourfield yn Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant, yn ogystal â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil i Hunan-niweidio. Mae’n athro gwadd ym Mhrifysgol Lund, Sweden. Yn 2024, roedd ef yn safle 33 yn y byd mewn rhestr o’r 100 cyfrannwr mwyaf blaenllaw ym maes gwaith cymdeithasol i gyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid.
