Beth gall plant dan saith oed ddweud wrthon ni am gymryd rhan yn yr ysgol y byddai oedolion yn ei anwybyddu fel arall?
Bydd y sesiwn ar-lein hon, sy’n rhad ac am ddim ac yng ngofal Prifysgol Gorllewin Lloegr Bryste, yn defnyddio canfyddiadau o’n llyfr “Children’s Rights: Our Voice”. Cafodd ei greu ar y cyd â phlant dan saith oed gan ddefnyddio dull dogfennu addysgegol a ysbrydolwyd gan Reggio Emilia. Mae’r llyfr yn cyfuno safbwyntiau plant a chanfyddiadau ein hymchwil, ar y cyd â chwestiynau myfyriol y caiff ymarferwyr eu defnyddio i ysgogi trafodaeth yn eu cyd-destunau eu hunain.
